Ynglŷn â Chamau at Astudio Ôl-raddedig

Mae Camau at Astudio Ôl-raddedig yn adnodd swyddogol sy'n cynnig cyfarwyddyd i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cwrs ôl-raddedig a addysgir.

Mae'r wefan wedi'i dylunio i helpu darpar fyfyrwyr (yn yr UE neu’r tu allan iddo) i nodi cwestiynau i'w gofyn iddynt eu hunain ac i brifysgolion wrth iddynt benderfynu pa beth y dylent ei astudio ac ym mha le. Mae hefyd lawer o ddolenni ar gael i ffynonellau eraill o wybodaeth berthnasol am ffioedd, fisas a mwy.

Nid yw'r adnodd hwn yn wefan ar gyfer cymharu cyrsiau, er hynny ceir dolenni i nifer o wefannau er mwyn dod o hyd i gyrsiau.

Mae Canllawiau ar Astudio Ôl-raddedig wedi cael eu datblygu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor cyllido'r Alban ac Adran Cyflogaeth ac Addysg Gogledd Iwerddon. O’r 1af o Ebrill 2018, byddai'r Swyddfa ar gyfer Myfyrwyr (OfS) yn disodli HEFCE ac yn rheoli'r gwefan hwn.

Mae'r testun ar gyfer y wefan ar gael dan Drwydded Llywodraeth Agored. Os ydych yn dymuno defnyddio'r deunydd, dilynwch y canllawiau a amlinellir gan y drwydded. Sylwch fod y testun hefyd yn darparu dolenni i wefannau trydydd parti, a all fod yn amodol ar delerau ac amodau a osodir gan berchennog trydydd parti'r cynnwys. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti.

Rydym yn croesawu’ch adborth ynglŷn â'r adnodd hwn, a sut y gellid ei ddatblygu – cysylltwch â ni ar – pgt@officeforstudents.org.uk.

Nesaf

Hafan