Amodau Defnyddio

Ymwadiad

Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wefan hon ar gael yn gyffredinol, nid ydym yn gwarantu'r fath argaeledd nac yn gwneud unrhyw osodiadau yn hyn o beth.

Rydym yn cadw'r hawl i dynnu mynediad at y wefan hon yn gyfan gwbl neu’n rhannol am gyfnodau o amser er mwyn addasu ei chynnwys, gwneud gwaith cynnal a chadw sy’n rhan o'n hamserlen reolaidd neu'n ddirybudd, ac am resymau eraill heb eich hysbysu chi.

Gan y byddwch yn derbyn y wefan hon trwy rwydweithiau telathrebu trydydd parti, bydd rhaid ichi gydnabod nad ydym yn gallu gwarantu argaeledd y wefan hon yn ddi-dor, nac y bydd heb wallau. Yn yr un modd, nid ydym yn gallu gwarantu y bydd unrhyw wybodaeth a drosglwyddir dros rwydweithiau o'r fath yn ddiogel, nac y byddwch yn gallu cael mynediad at y wefan hon ar bob adeg.

PWYSIG: o ganlyniad, darperir y wefan hon ichi ar sail "fel y mae" a "phryd bynnag y mae ar gael".

Cynnwys

Mae unrhyw beth ar y wefan hon er gwybodaeth yn unig, ac nid yw'n cynnwys cyngor cyfreithiol na phroffesiynol.

Er ein bod yn defnyddio meddalwedd gwirio firysau i wirio cynnwys y wefan, nid ydym yn gallu gwarantu ei bod yn rhydd rhag firysau na gwallau.

PWYSIG: Noder mai chi a chi yn unig sy'n gyfrifol am unrhyw benderfyniadau rydych yn eu gwneud ar sail y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y wefan. Cyn belled ag y mae'r gyfraith yn caniatáu, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir trwy’ch defnydd chi o'r wefan.

Dolenni i wefannau trydydd parti

Rydym yn darparu dolenni i wefannau trydydd parti er eich cyfleustra. Nid argymhellion yw'r dolenni hyn. Noder ei bod y bosibl y bydd cynnwys gwefannau trydydd parti'n destun telerau ac amodau a roddir gan berchennog trydydd parti'r cynnwys. Nid yw cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti yn golygu ein bod yn ardystio unrhyw gynnwys sydd ar y gwefannau sydd ar gael trwy'r dolenni hynny. Nid yw’r Swyddfa ar gyfer Myfyrwyr (OfS) yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti o'r fath, a thrwy hyn mae’n ymwadu â phob atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir cael mynediad at gynnwys o'r fath a’i ddefnyddio.

Cwcis y we

Rydym yn defnyddio dau fath o gwci ar ein gwefan ni:

  • Cwcis y we

    Mae cwcis y we yn cynnwys ffeiliau bach, gan gynnwys yn aml nodwyr unigol, a anfonir gan weinyddion gwe at borwyr gwe, a all wedyn gael eu hanfon yn ôl at y gweinydd bob tro mae'r porwr yn gofyn am dudalen newydd gan y gweinydd. Gallant gael eu defnyddio gan weinyddion gwe i nodi a dilyn defnyddwyr wrth iddynt we-lywio trwy'r gwahanol dudalennau ar wefan ac i'w helpu wrth iddynt ddychwelyd i wefan.

  • Dadansoddiadau Google

    Mae gwefan Camau at Astudio Ôl-raddedig yn defnyddio Dadansoddiadau Google, gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google, Inc. Mae Dadansoddiadau Google yn defnyddio cwcis i werthuso eich defnydd chi o'r wefan ac yn paratoi adroddiadau inni ar y gweithgarwch ar y wefan.

    Mae Google yn storio'r wybodaeth a gesglir gan y cwci ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau. Mae'n bosibl hefyd y bydd Google yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i grwpiau trydydd parti lle mae'r gyfraith yn gofyn am hynny, neu lle mae grŵp trydydd parti yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Trwy ddefnyddio gwefan Camau at Astudio Ôl-raddedig, rydych yn cydsynio y bydd Google yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn y modd ac at y dibenion a nodir uchod.

    Nid oes rhaid ichi dderbyn y cwci hwn - gallwch chi ei wrthod neu ei ddileu. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud hyn gan Google: www.google.com/intl/en/privacypolicy.html (Agor mewn ffenestr newydd)

Cysylltu â ni

Gallwch chi gysylltu â ni trwy anfon neges e-bost: pgt@officeforstudents.org.uk

Neu drwy ysgrifennu at:

Provision of Information team
Office for Students
Nicholson House
Lime Kiln Close
Stoke Gifford
BRISTOL
BS34 8SR

Nesaf

Hafan