




Mae'r wefan wedi'i dylunio i helpu darpar fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig a addysgir (yn yr UE neu’r tu allan iddo) i feddwl am gwestiynau i'w gofyn iddynt eu hunain ac i brifysgolion neu golegau wrth iddynt benderfynu beth ddylent ei astudio ac ym mhle. Hefyd, ceir llawer o ddolenni i ffynonellau eraill o wybodaeth berthnasol am ffioedd, fisas a mwy. Nid yw'r adnodd hwn yn wefan ar gyfer cymharu cyrsiau, serch hynny ceir dolenni i nifer o wefannau er mwyn dod o hyd i gyrsiau.
Mae Camau at Astudio Ôl-raddedig wedi cael eu datblygu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (CCAULl), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor cyllido'r Alban ac Adran yr Economi Gogledd Iwerddon. O’r 1af o Ebrill 2018, byddai'r Swyddfa ar gyfer Myfyrwyr (OfS) yn disodli HEFCE ac yn rheoli'r gwefan hwn.