Ble i gael mwy o wybodaeth

Pa gyrsiau sydd ar gael yn fy maes i?

Ffordd gyflym o weld yr hyn sydd ar gael yn eich maes chi yw defnyddio gwefan ar gyfer dod o hyd i gyrsiau ôl-raddedig yn y DU.

Mae’r gwefannau porth hyn yn dibynnu ar brifysgolion a cholegau i anfon gwybodaeth gyfoes atynt. Felly byddwch yn ymwybodol y gall manylion fod ar goll neu bellach nad ydynt yn gyfoes.

Mae’r ystod o wybodaeth ar bob gwefan yn amrywio. Felly peidiwch â dibynnu ar un wefan borth yn unig.

Mae safle Ôl-raddedig UCAS a safle Prospects yn casglu gwybodaeth yn systematig gan bob sefydliad.

Hefyd mae rhai safleoedd porthol yn caniatáu i chi chwilio am bynciau penodol mewn modiwlau, sy’n gallu helpu gyda dod o hyd i gyrsiau sy’n cael eu cuddio efallai gan deitl cwrs mwy cyffredinol.

Pan fyddwch wedi creu rhestr fer o gyrsiau sydd o ddiddordeb, siaradwch yn uniongyrchol â darparwr y cwrs er mwyn cael mwy o wybodaeth.

Defnyddiol i wybod: Ar rai safleoedd porthol mae sefydliadau’n talu am hysbysebu eu cyrsiau, gan eu gwneud yn amlycach pan fyddwch yn chwilio drwy’r wefan. Cofiwch bod llai o hybu ar gyrsiau eraill efallai.

Gwefannau porth sefydledig ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig:

Beth sy’n digwydd mewn ffair astudiaethau ôl-raddedig?

Cynhelir tair ffair ôl-raddedig fawr yn y DU bob blwyddyn, yn ogystal â rhai llai, rhanbarthol.

Ceir stondinau gan brifysgolion ac arddangosfeydd gan sefydliadau eraill ynglŷn â chyllid, gyrfaoedd a materion perthnasol eraill. Fel arfer maent yn cynnwys sgyrsiau am y gwahanol agweddau ar astudio ôl-raddedig ac weithiau sesiynau cyngor ar yrfaoedd.

Mae ffeiriau ôl-raddedig yn fannau da i gael gwybodaeth gyffredinol am brifysgol ac i gwrdd â'r staff wyneb yn wyneb. Os oes gennych gwestiynau am gyrsiau penodol, byddant yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â'r staff sy'n eu cynnal.

Efallai y bydd prifysgolion yn rhestru pa ffeiriau maent yn eu mynychu ar eu gwefannau.

Ffeiriau astudiaethau ôl-raddeding

Syniadau i roi cynnig arnynt: Cyn mynd i ffair ôl-raddedig, lluniwch restr o gwestiynau i’w gofyn i bob sefydliad a darparydd cwrs yr hoffech chi gwrdd â nhw. Gwnewch ymchwil i’r hyn mae’r sefydliadau hynny’n ei gynnig cyn llunio eich rhestr o gwestiynau.

Siarad â staff academaidd am gwrs

Os ydych am siarad â staff academaidd am gwrs, ystyriwch y canlynol:

  • Chwiliwch am y wybodaeth gyswllt berthnasol ar dudalen cyrsiau gwefan y brifysgol neu’r coleg.
  • Bydd gan rai sefydliadau ganolfan ymholiadau ganolog, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i'r cysylltiadau cywir.
  • Os nad yw’r cyswllt yn gallu ateb eich cwestiynau penodol, gofynnwch am gyfeiriad e-bost uniongyrchol rhywun sy’n gallu eich helpu yn hyn o beth.
  • Cadwch olwg am sesiynau sgwrsio ar-lein neu webinarau ar wefannau prifysgolion neu golegau. Gall y rhain gael eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Dylech ddisgwyl ateb o fewn ychydig ddiwrnodau. Os nad ydych wedi derbyn ateb ar ôl wythnos, mae’n syniad anfon e-bost arall neu ffonio.

Siarad â myfyrwyr ôl-raddedig cyfredol

Gall siarad â myfyrwyr ôl-raddedig cyfredol fod yn ddefnyddiol. I wneud hyn, ystyriwch y canlynol:

  • Bydd llawer o sefydliadau’n cynnal diwrnodau agored lle bydd myfyrwyr cyfredol a staff ar gael i siarad â chi.
  • Cadwch olwg am fforymau a sesiynau sgwrsio ar-lein neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol a gaiff eu rhedeg gan ŷ sefydliad yn eich maes.
  • Mae rhai sefydliadau’n cynnig cysylltiadau e-bost er mwyn cysylltu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol â’i gilydd.
  • Efallai y bydd grwpiau alumni y gallwch gysylltu â nhw drwy ddefnyddio rhwydweithiau fel LinkedIn neu Facebook.
  • Cysylltwch â’r adran sy’n cynnal y cwrs a gofynnwch a ydynt yn gallu eich helpu i gysylltu â myfyrwyr presennol neu raddedigion diweddar.

Pwy allai ateb cwestiynau gan fyfyrwyr rhyngwladol eraill?

Bydd gan y rhan fwyaf o ddarparwyr cyrsiau wasanaethau cymorth, gan gynnwys swyddfa ryngwladol. Bydd aelodau o staff yn hapus i’ch helpu ac i’ch cynghori chi fel myfyriwr rhyngwladol ar unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag astudio yn y DU. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau!

Hefyd efallai y bydd y swyddfa ryngwladol yn gallu eich cyfeirio chi at fyfyrwyr rhyngwladol cyfredol, gan gynnwys rhai o’ch gwlad eich hun, er mwyn ichi eu holi am eu profiadau.

Nesaf

Cwestiynau i’w hystyried wrth chwilio am gwrs