Pam dewis cwrs ôl-raddedig a addysgir?

A fydd astudiaeth ôl-raddedig yn fy helpu i gael swydd well?

Mae rhai cyflogwyr yn rhoi pwyslais ychwanegol ar gymhwyster ôl-raddedig – ond nid pob un. Mae’n dibynnu ar yr yrfa ac ar y cyflogwr.

Mae cyflogwyr yn gofyn am gymhwyster ôl-raddedig ar gyfer rhai rolau arbenigol.

Syniadau i roi cynnig arnynt: Gallai cyngor gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i benderfynu a oes angen cymhwyster ôl-raddedig ar gyfer eich gyrfa.

Gallai gwasanaeth gyrfaoedd eich sefydliad israddedig gynnig cyngor yn hyn o beth.

Ffynonellau eraill o wybodaeth yw:

A fuasai cwrs ôl-raddedig yn helpu fy ngyrfa?

Dylai cwblhau cwrs ôl-raddedig arwain at gymhwyster ar lefel uwch, a gaiff ei gydnabod naill ai’n broffesiynol neu’n academaidd.

Bydd y ffordd mae hyn yn effeithio ar eich gyrfa'n dibynnu ar nifer o ffactorau: y cwrs, y cymhwyster, y sector gwaith, profiadau personol, dyheadau ac ysgogiad. Felly mae llawer yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Dylai siarad â ffrindiau, cydweithwyr, darlithwyr neu ymgynghorwyr gyrfaoedd eich helpu wrth i chi ystyried y ffactorau hyn.

Mae'n bwysig hefyd ystyried:

  • Bod rhai cymwysterau proffesiynol yn benodol i'r DU, felly ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol mae'n bwysig sicrhau bod y cymhwyster yn berthnasol.
  • Gall siarad yn uniongyrchol â chymdeithas cyflogwyr neu gymdeithas broffesiynol egluro a yw cwrs yn addas ar gyfer llwybr gyrfa penodol.
  • Os yw cyflogwr yn fodlon ariannu’ch astudiaeth, mae’n arwydd da y bydd y cymhwyster yn ddefnyddiol.

A fydd gwrs ôl-raddedig yn fy helpu i newid gyrfa?

Gallai cwrs ôl-raddedig eich helpu i newid eich gyrfa, ond bydd llawer yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Felly, y peth gorau yw ceisio cyngor proffesiynol.

Gallwch chi wneud hyn mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gallech gysylltu â:

  • gwasanaeth gyrfaoedd eich cyn-brifysgol neu goleg (os ydych wedi graddio eisoes)
  • ymgynghorydd neu hyfforddwr gyrfa preifat
  • sefydliad proffesiynol yn y maes rydych yn ei ystyried.

Gallai hyn eich helpu i ddarganfod yr hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano, ac a allai cymhwyster ôl-raddedig helpu.

Syniadau i Roi Cynnig Arnynt: Gofynnwch i’r sefydliad rydych chi’n ei ystyried a allwch chi gysylltu ag unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig ô’ch gwlad eich hun i gael gwybod am eu profiadau.

A oes angen cymhwyster ôl-raddedig a addysgir arnaf er mwyn gwneud ymchwil ôl-raddedig?

Mae’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yn amrywio, yn dibynnu ar y pwnc.

  • Mewn rhai pynciau, mae myfyrwyr yn dechrau ymchwil ar lefel doethur naill ai yn syth ar ôl gwneud gradd gyntaf neu ar ôl gwneud gradd meistr (er enghraifft, yn y gwyddorau ffisegol a biolegol).
  • Mewn pynciau eraill, bydd llawer o fyfyrwyr yn ennill cymhwyster ar lefel meistr cyn dechrau ar ddoethuriaeth (er enghraifft, yn y dyniaethau).

Prin y bydd cymhwyster ôl-raddedig yn ofyniad. Ond, os oes gennych ddiddordeb mewn sefydliadau ymchwil penodol, neu feysydd penodol o ymchwil, dylech ofyn beth yw'r gofynion.

Pa mor anodd yw astudio ôl-raddedig?

Efallai y byddwch yn poeni y bydd rhai agweddau ar astudio ôl-raddedig yn heriol, yn enwedig os ydych wedi gadael y brifysgol ers blynyddoedd lawer.

Bydd cwrs ôl-raddedig, yn enwedig meistr, yn fwy anodd ac yn fwy dwys na chwrs israddedig. Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o syniadau newydd ac ar adegau i ffyrdd newydd o weithio. Byddwch yn barod am ddechrau dwys.

Cefnogaeth ar gyfer astudio

Gall prifysgolion a cholegau gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig wrth iddynt astudio. Efallai eu bod yn cynnig:

  • eich helpu i nodi’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch
  • cyfleusterau neu gymorth i’ch helpu wrth ichi astudio
  • cyrsiau iaith a chyrsiau ysgrifennu academaidd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol (efallai y bydd cost ychwanegol am y rhain, a bydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sicrhau bod eu fisas yn eu cynnwys).

Syniadau i roi cynnig arnynt: Meddyliwch am unrhyw sgiliau astudio rydych wedi’u defnyddio yn y gorffennol ac a ydynt gennych o hyd – hyd yn oed os ydych bellach yn eu defnyddio mewn ffordd wahanol. Pa sgiliau fuasai angen eu gwella? Pa sgiliau rydych wedi eu datblygu ers hynny a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer astudio ôl-raddedig? Gallai disgrifiadau cwrs ar wefannau sefydliadau ddangos y sgiliau sydd gennych, a’r rhai efallai y bydd angen ichi eu datblygu.

Nesaf

Ystyriaethau ymarferol