A fydd astudiaeth ôl-raddedig yn fy helpu i gael swydd well?
Mae rhai cyflogwyr yn rhoi pwyslais ychwanegol ar gymhwyster ôl-raddedig – ond nid pob un. Mae’n dibynnu ar yr yrfa ac ar y cyflogwr.
Mae cyflogwyr yn gofyn am gymhwyster ôl-raddedig ar gyfer rhai rolau arbenigol.
Syniadau i roi cynnig arnynt: Gallai cyngor gyrfaoedd proffesiynol eich helpu i benderfynu a oes angen cymhwyster ôl-raddedig ar gyfer eich gyrfa.
Gallai gwasanaeth gyrfaoedd eich sefydliad israddedig gynnig cyngor yn hyn o beth.
Ffynonellau eraill o wybodaeth yw:
- gwasanaeth gyrfaoedd prifysgol neu goleg lleol (bydd rhai gwasanaethau yn cynnig cymorth i bobl sydd heb raddio o’r sefydliad hwnnw)
- eich adran adnoddau dynol (os ydych yn gweithio)
- y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol (os ydych yn y DU)
- adran gyrfaoedd gwefan nidirect (os ydych yng Ngogledd Iwerddon)
- Gyrfa Cymru (os ydych yng Nghymru)
A fuasai cwrs ôl-raddedig yn helpu fy ngyrfa?
Dylai cwblhau cwrs ôl-raddedig arwain at gymhwyster ar lefel uwch, a gaiff ei gydnabod naill ai’n broffesiynol neu’n academaidd.
Bydd y ffordd mae hyn yn effeithio ar eich gyrfa'n dibynnu ar nifer o ffactorau: y cwrs, y cymhwyster, y sector gwaith, profiadau personol, dyheadau ac ysgogiad. Felly mae llawer yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Dylai siarad â ffrindiau, cydweithwyr, darlithwyr neu ymgynghorwyr gyrfaoedd eich helpu wrth i chi ystyried y ffactorau hyn.
Mae'n bwysig hefyd ystyried:
- Bod rhai cymwysterau proffesiynol yn benodol i'r DU, felly ar gyfer gyrfaoedd rhyngwladol mae'n bwysig sicrhau bod y cymhwyster yn berthnasol.
- Gall siarad yn uniongyrchol â chymdeithas cyflogwyr neu gymdeithas broffesiynol egluro a yw cwrs yn addas ar gyfer llwybr gyrfa penodol.
- Os yw cyflogwr yn fodlon ariannu’ch astudiaeth, mae’n arwydd da y bydd y cymhwyster yn ddefnyddiol.
A fydd gwrs ôl-raddedig yn fy helpu i newid gyrfa?
Gallai cwrs ôl-raddedig eich helpu i newid eich gyrfa, ond bydd llawer yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Felly, y peth gorau yw ceisio cyngor proffesiynol.
Gallwch chi wneud hyn mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gallech gysylltu â:
- gwasanaeth gyrfaoedd eich cyn-brifysgol neu goleg (os ydych wedi graddio eisoes)
- ymgynghorydd neu hyfforddwr gyrfa preifat
- sefydliad proffesiynol yn y maes rydych yn ei ystyried.
Gallai hyn eich helpu i ddarganfod yr hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano, ac a allai cymhwyster ôl-raddedig helpu.
Syniadau i Roi Cynnig Arnynt: Gofynnwch i’r sefydliad rydych chi’n ei ystyried a allwch chi gysylltu ag unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig ô’ch gwlad eich hun i gael gwybod am eu profiadau.
A oes angen cymhwyster ôl-raddedig a addysgir arnaf er mwyn gwneud ymchwil ôl-raddedig?
Mae’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yn amrywio, yn dibynnu ar y pwnc.
- Mewn rhai pynciau, mae myfyrwyr yn dechrau ymchwil ar lefel doethur naill ai yn syth ar ôl gwneud gradd gyntaf neu ar ôl gwneud gradd meistr (er enghraifft, yn y gwyddorau ffisegol a biolegol).
- Mewn pynciau eraill, bydd llawer o fyfyrwyr yn ennill cymhwyster ar lefel meistr cyn dechrau ar ddoethuriaeth (er enghraifft, yn y dyniaethau).
Prin y bydd cymhwyster ôl-raddedig yn ofyniad. Ond, os oes gennych ddiddordeb mewn sefydliadau ymchwil penodol, neu feysydd penodol o ymchwil, dylech ofyn beth yw'r gofynion.
Pa mor anodd yw astudio ôl-raddedig?
Efallai y byddwch yn poeni y bydd rhai agweddau ar astudio ôl-raddedig yn heriol, yn enwedig os ydych wedi gadael y brifysgol ers blynyddoedd lawer.
Bydd cwrs ôl-raddedig, yn enwedig meistr, yn fwy anodd ac yn fwy dwys na chwrs israddedig. Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o syniadau newydd ac ar adegau i ffyrdd newydd o weithio. Byddwch yn barod am ddechrau dwys.
Cefnogaeth ar gyfer astudio
Gall prifysgolion a cholegau gefnogi myfyrwyr ôl-raddedig wrth iddynt astudio. Efallai eu bod yn cynnig:
- eich helpu i nodi’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch
- cyfleusterau neu gymorth i’ch helpu wrth ichi astudio
- cyrsiau iaith a chyrsiau ysgrifennu academaidd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol (efallai y bydd cost ychwanegol am y rhain, a bydd yn rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sicrhau bod eu fisas yn eu cynnwys).
Syniadau i roi cynnig arnynt: Meddyliwch am unrhyw sgiliau astudio rydych wedi’u defnyddio yn y gorffennol ac a ydynt gennych o hyd – hyd yn oed os ydych bellach yn eu defnyddio mewn ffordd wahanol. Pa sgiliau fuasai angen eu gwella? Pa sgiliau rydych wedi eu datblygu ers hynny a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer astudio ôl-raddedig? Gallai disgrifiadau cwrs ar wefannau sefydliadau ddangos y sgiliau sydd gennych, a’r rhai efallai y bydd angen ichi eu datblygu.