Cwestiynau i’w hystyried wrth chwilio am gwrs

Cwestiynau ynglŷn â’r cynnwys a’r addysgu ar gyrsiau

Dylai gwefannau prifysgolion a cholegau a staff prifysgolion allu ateb y cwestiynau isod am gyrsiau unigol:

  • Sut caiff y cwrs ei addysgu?
  • Pa opsiynau sydd ar gael o ran dyddiad dechrau’r cwrs?
  • Beth yw hyd y cwrs?
  • Beth yw’r gwahaniaethau rhwng astudio llawn amser ac astudio rhan amser ar y cwrs hwn?
  • Beth yw hyd y cwrs rhan amser a phryd y bydd yn cael ei gynnal?
  • Os bydd angen i mi newid o astudio llawn amser i astudio rhan amser, neu fel arall, a yw hynny’n bosibl?
  • Beth yw diben cyffredinol y cwrs a pham mae’n wahanol i gyrsiau eraill yn yr un maes a gynigir gan y sefydliad hwn?
  • Faint o ddewis sydd o ran modiwlau neu rannau eraill o’r cwrs?
  • A allwn i fynychu modiwlau eraill o ddiddordeb hyd yn oed os nad wyf yn sefyll yr arholiadau neu’n cyflawni’r aseiniadau ar eu cyfer?
  • Faint o’r cwrs sy’n brosiect ymchwil (neu rywbeth tebyg)?
  • Sut caiff y cwrs ei asesu? A asesir pob modiwl trwy arholiadau neu a oes gwaith cwrs a asesir?
  • Beth yw’r cydbwysedd o ran amser cyswllt mewn dosbarthiadau, seminarau neu labordai o’i gymharu ag astudiaeth breifat?
  • Beth yw’r modiwlau neu elfennau penodol sy’n ffurfio’r cwrs hwn?
  • Ble gallaf ddod o hyd i ddisgrifiadau o bob modiwl neu ran o’r cwrs?
  • Pryd byddwch chi’n gwybod pa fodiwlau sy’n bendant ar gael ar gyfer y flwyddyn rwy’n dymuno astudio?
  • Ar ba ddiwrnodau o’r wythnos y bydd angen i mi fynychu’r sefydliad ac am sawl awr?
  • Pa gymorth academaidd cyffredinol sy’n cael ei gynnig ar gyfer y cwrs hwn?

Cwestiynau ynglŷn â chyrsiau dysgu o bell, ar-lein neu ddysgu cyfunol

  • A allaf astudio yn fy amser fy hun yn gyfan gwbl, neu a oes rhaid i mi ddilyn elfennau penodol o’r cwrs ar adegau penodol?
  • Sut caiff yr addysgu ei ddarparu ar gyfer y cwrs hwn – a yw’n cynnwys darlithoedd ar-lein lle gallwch weld neu wrando ar y darlithydd neu a yw’r cwbl yn ysgrifenedig? Pa fath o gyswllt a chymorth sydd ar gael ar y cwrs hwn? A yw’n cael ei ddarparu gan diwtoriaid y cwrs neu weinyddwyr? A yw’r cymorth ar gael drwy’r dydd a thrwy’r wythnos neu ar adegau penodol yn unig, ac os felly, pryd? A oes unrhyw fforymau myfyrwyr neu ffyrdd eraill o gyfathrebu â myfyrwyr eraill sy’n dilyn y cwrs ar yr un pryd? Pa fath o offer neu gysylltiad â’r rhyngrwyd fydd eu hangen arnaf i lwyddo cyflawni’r cwrs? A fydd angen i mi ddod i’r sefydliad yn bersonol ac, os felly, pa mor aml ac am ba hyd?

Cwestiynau ynglŷn ag effaith ar yrfaoedd

Efallai bod atebion i’r cwestiynau isod ar wefannau prifysgolion a cholegau, neu efallai bod angen ichi ofyn iddynt yn uniongyrchol. Gallai siarad â chyn-fyfyrwyr fod o fudd.

  • Beth yw’r fantais gyffredin ar yrfa o ddilyn y cwrs hwn i rywun fel fi (gan nodi eich amgylchiadau o ran cyfeiriad gyrfa, swydd ac oedran)?
  • A yw’n bosibl cysylltu’n uniongyrchol â graddedigion a oedd mewn sefyllfa debyg i mi ac a aeth ar y cwrs, er mwyn darganfod y fantais i’w gyrfa ac i holi am eu profiadau?
  • A oes cyfleoedd i gysylltu â myfyrwyr presennol neu raddedigion diweddar o’r cwrs, drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, i ofyn cwestiynau iddynt ac i rannu profiadau?
  • A oes gennych chi wybodaeth ynglŷn â chyflogaeth graddedigion o’r cwrs hwn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf?
  • A yw’r cwrs hwn wedi ei achredu gan unrhyw gyrff proffesiynol? A fuasai’n rhoi unrhyw gymwysterau/statws proffesiynol ychwanegol i mi, neu’n fy eithrio o unrhyw arholiadau cyrff proffesiynol?
  • A yw’r cwrs yn cynnwys elfen profiad gwaith perthnasol, fel interniaeth neu leoliad?
    • Pa gyfran o fyfyrwyr ar y cwrs sy’n cyflawni interniaeth neu leoliad?
    • O’r rheiny, pa gyfran sy’n cael cynnig swydd ar ddiwedd y cwrs gan y cwmni lleoli?
    • A fuasai angen i mi drefnu’r lleoliad fy hun neu a yw’r sefydliad yn ei drefnu i mi, neu’n fy helpu o leiaf?
    • Os nad oes unrhyw gynllun lleoli, a fuasai’n bwysig ceisio dod o hyd i rywfaint o brofiad gwaith cyn neu ar ôl y cwrs, neu yn ystod y cwrs, er mwyn cynyddu mantais yrfaol y cwrs ei hun?
  • I ba raddau y ceir rhyngweithio â diwydiant neu gyflogwyr yn ystod y cwrs, fel siaradwyr gwadd?

Cwestiynau ynglŷn ag ariannu a chyllid

Dylai gwefannau prifysgolion a cholegau ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chyllid ac arian gyda’r wybodaeth am gyrsiau neu mewn adran ar ‘ffioedd ac arian’. Neu gallwch ofyn i’r sefydliad yn uniongyrchol.

  • Beth yw ffioedd y cwrs? [neu] Pryd byddwch chi’n cyhoeddi ffioedd cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf?
  • A oes ffi ar gyfer gwneud cais?
  • A oes angen talu blaendal?
  • Pryd a sut ydw i’n talu’r ffioedd? A allaf i dalu ffioedd mewn rhandaliadau?
  • A oes gostyngiad i gyn-fyfyrwyr (myfyrwyr graddedig) y sefydliad hwn ar ffioedd cyrsiau ôl-raddedig?
  • A oes unrhyw ffioedd neu gostau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cwrs, er enghraifft ar gyfer offer neu deithiau maes neu rywbeth tebyg?
  • A yw’r adran, y sefydliad neu’r rhanbarth yn cynnig bwrsarïau, ysgoloriaethau neu ysgoloriaethau ymchwil? A oes gwefan neu gyfeiriadur sy’n nodi’r manylion hyn?
  • A oes unrhyw fwrsarïau neu ysgoloriaethau penodol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol neu’r rhai o fy ngwlad i?
  • Os wyf am wneud cais am fwrsari, ysgoloriaeth neu ysgoloriaeth ymchwil, sut rwyf yn gwneud hyn?
  • Sut mae myfyrwyr graddedig diweddar eraill wedi llwyddo i ariannu eu cyrsiau?
  • A oes angen i mi wneud ceisiadau ar wahân ar gyfer y cwrs a’r cyllid?
  • A yw ffurflen gais y cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i mi fod â chyllid neu gadarnhau y byddaf yn ariannu’r cwrs fy hun?
  • A gynigir cyllid caledi i fyfyrwyr ôl-raddedig ac a allaf ei ddefnyddio i dalu fy ffioedd?
  • Tua faint yw treuliau byw i fyfyrwyr ôl-raddedig yn y sefydliad hwn?
  • Ble y gallaf i ddod o hyd i wybodaeth am dreuliau byw yn yr ardal hon?
  • A oes rhaid i mi brofi bod y cyllid gennyf ar gyfer y cwrs, naill ai ar gyfer y ffioedd neu dreuliau byw neu’r ddau?
  • A oes cymorth os oes angen i mi ddod o hyd i waith rhan-amser i helpu i ariannu fy astudiaethau? A fydd oriau’r cwrs yn caniatáu hyn?

Cwestiynau ynglŷn â cheisiadau i gyrsiau

Dylai gwefannau prifysgolion a cholegau ateb y cwestiynau canlynol, neu gallwch holi’r sefydliad yn uniongyrchol.

  • Sut mae gwneud cais ar gyfer cwrs penodol?
  • Rwy’n gwneud cais am le ar fwy nag un cwrs yn y sefydliad hwn. A oes rhaid i mi wneud ceisiadau ar wahân?
  • Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?
  • Rwy’n dymuno dilyn y cwrs hwn ond nid yw’r gofynion mynediad cywir gennyf – a oes modd imi wneud cais beth bynnag, neu ba gymwysterau arall sydd eu hangen arnaf?
  • Pa mor fuan byddaf yn cael gwybod a gefais fy nerbyn ar y cwrs neu beidio?
  • Pa mor hir yw’r broses ymgeisio a sut ydy hi’n gweithio?
  • Sut mae modd imi gadw golwg ar gynnydd fy nghais?
  • A oes rhaid i mi dalu blaendal ac, os felly, faint yw e? A ydw i’n ei gael yn ôl?
  • A oes rhaid i mi dalu ffi ymgeisio? Os felly, faint yw e? A ydw i’n ei gael yn ôl?
  • Os wyf am wneud cais am fwrsariaeth, ysgoloriaeth neu ysgoloriaeth ymchwil, sut mae gwneud hyn?
  • A oes angen i mi wneud ceisiadau ar wahân ar gyfer y cwrs a’r cyllid?

Cwestiynau ymarferol eraill

Dylai gwefannau’r prifysgolion a’r colegau ateb y cwestiynau canlynol, neu gallwch holi’r sefydliad yn uniongyrchol.

  • Dylai gwefannau prifysgolion ateb y cwestiynau canlynol, neu gallwch holi’r sefydliad yn uniongyrchol.
  • A oes modd i fyfyrwyr ôl-raddedig barcio yn y sefydliad?
  • Mae angen i mi drefnu gofal plant er mwyn imi allu astudio – a all y sefydliad helpu?
  • Faint o lety a gaiff ei ddarparu i fyfyrwyr ôl-raddedig a pha feini prawf a gaiff eu defnyddio i benderfynu pwy fydd yn cael ei dderbyn?
  • A oes llety arbennig ar gyfer teuluoedd os wyf yn dymuno dod â’m teulu?
  • Beth yw’r broses ar gyfer gwneud cais am lety fel myfyriwr ôl-raddedig yn y sefydliad hwn, a beth yw’r gost?
  • Pa mor bell o’r sefydliad yw’r lletyau eraill fel rheol?
  • Ble mae’r sefydliad, a beth yw’r ffordd orau o deithio yno?
  • Ble mae modd cael mwy o wybodaeth am yr ardal o gwmpas y sefydliad a’r cyfleusterau sydd ar gael yno?
  • Pa gyfleusterau cymdeithasol a chymdeithasau a gaiff eu cynnal gan y sefydliad yn arbennig ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig, a ble mae modd cael gwybodaeth amdanynt?

Nesaf

Hafan