Cyflwyniad i astudio ôl-raddedig

Astudio ôl-raddedig yn y DU

Bwriad y canllawiau hyn yw helpu unrhyw un sy'n ystyried astudiaeth ôl-raddedig a addysgir.

Yn fras, mae addysg uwch yn y DU yn cynnwys tair lefel:

  • Graddau israddedig. Mae cymwysterau ar y lefel hon yn darparu sail i bwnc. Fel arfer maent yn para am dair neu bedair blynedd.
  • Graddau ôl-raddedig a addysgir. Mae'r rhain yn gymwysterau ar lefel uwch sy'n caniatáu rhagor o arbenigedd a dysgu annibynnol. Fel arfer maent yn para am flwyddyn.
  • Graddau ymchwil ôl-raddedig . Bydd myfyrwyr ar y lefel hon yn datblygu eu dealltwriaeth drwy gyfnodau hwy o ymchwil annibynnol.

Mae prifysgolion a rhai colegau addysg bellach yn cynnig moddau hyblyg o astudio ôl-raddedig a addysgir. Gall myfyrwyr astudio'n rhan amser neu'n llawn amser. Gallant astudio ar y campws, o bell neu gyfuno’r ddau (sef dysgu cyfunol).

Mae prifysgolion yn dyfarnu credydau am bob cwrs, gan gynnwys cyrsiau ôl-raddedig. Mae credydau cyrsiau (fel y Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau (CATS) yn adlewyrchu'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs, yn ogystal â chymhlethdod a manylder y dysgu y gallwch eu disgwyl.

Sylwch nad yw'r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth ynglŷn â graddau ymchwil ôl-raddedig. Mae Vitae – elusen annibynnol sy'n helpu ymchwilwyr i gyrraedd eu potensial – yn darparu gwybodaeth ynglŷn ag astudio ar lefel doethurol.

Beth yw’r prif fathau o astudio ôl-raddedig a addysgir?

Graddau Meistr

Mae cyrsiau a addysgir ar lefel meistr:

  • yn gallu arwain at gymwysterau megis Meistr mewn Gwyddoniaeth, Meistr yn y Celfyddydau, Meistr yn y Llythyrau
  • ar y cyfan yn para am 12 mis yn y DU ac yn cynnwys 180 credyd CATS
  • yn gallu bod yn arbenigol ac yn perthyn i yrfa (er enghraifft Gradd Meistr mewn Astudiaethau Busnes neu Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes)
  • mewn rhai achosion yn cael eu hintegreiddio â gradd israddedig i greu un cwrs lle mae myfyrwyr yn arbenigo'n raddol.

Diplomâu a thystysgrifau ôl-raddedig

Mae’r cyrsiau hyn mor heriol yn academaidd â chyrsiau meistr a addysgir ond yn gyffredinol maent yn fyrrach ac yn cynnwys llai o gredydau CATS (120 am ddiploma, 60 am dystysgrif).

Cymwysterau proffesiynol a galwedigaethol

Mae’r cyrsiau hyn yn gwella neu’n datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swydd benodol. Er enghraifft, mae cwrs ymarfer cyfreithiol yn gallu arwain at fod yn gyfreithiwr cymwysedig.

Beth yw trefn cyrsiau ôl-raddedig a addysgir yn y DU?

Mae myfyrwyr yn gallu cwblhau'r rhan fwyaf o gyrsiau gradd meistr yn y DU o fewn blwyddyn, ond mae ganddynt opsiwn i'w cwblhau'n rhan amser dros gyfnod hwy. Mewn gwledydd eraill, yn aml mae cyrsiau llawn amser yn para am ddwy flynedd neu fwy.

Mae cyrsiau'n gofyn am gryn lawer o astudio annibynnol a rhyngweithio â myfyrwyr eraill a staff addysgu.

Anogir myfyrwyr i gymryd rhan ymarferol mewn labordai, gweithgorau a sesiynau addysgu. Bydd myfyrwyr yn herio syniadau ei gilydd a syniadau tiwtoriaid y cwrs, yn ogystal â mynegi eu syniadau eu hunain.

Dylai myfyrwyr sydd am weithio y tu hwnt i’r DU siarad â chyflogwyr allweddol, neu gorff proffesiynol, yn y wlad berthnasol, er mwyn sicrhau bod cymwysterau o’r DU yn cael eu cydnabod.

Bydd y gofynion derbyn ar gyfer cwrs yn nodi’n glir pa lefel o Saesneg ysgrifenedig a llafar sydd ei hangen. Mae llawer o sefydliadau’n cynnig cyrsiau mewn ysgrifennu academaidd ar gyfer myfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.

Sut mae bywyd myfyriwr ôl-raddedig?

O gymharu â chyrsiau israddedig, mae cyrsiau ôl-raddedig llawn amser yn y DU yn heriol, yn ddwys a chanddynt bwyslais penodol. Maent hefyd yn amrywio llawer. Cyn ichi wneud cais, efallai y byddwch am:

Unwaith rydych wedi cychwyn ar gwrs, bydd rhaglenni sefydlu'n eich helpu i gwrdd â myfyrwyr eraill ac ymgyfarwyddo â’r campws newydd. Mae rhaglenni sefydlu yn debygol o fod yn fwy trwyadl ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Mae prifysgolion y DU yn aml yn cynnig llawer o gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae undebau myfyrwyr hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth a gwybodaeth.

Syniadau i roi cynnig arnynt: Gofynnwch i'r sefydliad rydych yn ei ystyried a ydych yn gallu cysylltu â myfyrwyr ôl-raddedig eraill o’ch gwlad eich hun, er mwyn eu holi am eu profiadau nhw o astudio yno.

Nesaf

Pam dewis cwrs ôl-raddedig a addysgir?