Ystyriaethau ymarferol

Pa bethau ymarferol y bydd angen imi feddwl amdanynt (cyllid, llety, fisas a cheisiadau)?

Cyllido astudiaethh ôl-radd a addysgir

Mae cost astudiaeth ôl-radd yn amrywio yn y DU, yn dibynnu ar y pwnc, y cwrs a’r sefydliad. Hefyd mae costau byw yn amrywio ledled y wlad.

  • I gael gwybod mwy am ffioedd a chyllido, cysylltwch â swyddfa ryngwladol/swyddfa derbyn y sefydliad rydych chi’n ei ystyried.
  • Efallai y codir ffioedd gwahanol ar fyfyrwyr o’r DU, yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwledydd heb fod yn yr UE. Fel rheol, mae’r ffioedd yn uwch i fyfyrwyr nad ydynt yn byw yn yr UE.

Ffynonellau cyllid

Gall dod i hyd i gyllid fod yn anodd ac mae angen gwneud ymchwil. Efallai y byddwch yn gallu cael cyllid sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gan eich cyflogwr neu gan ffynonellau allanol eraill. Efallai y bydd rhaid ichi ariannu eich hun.

Ar gyfer myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr (a'r UE):

  • Lansiwyd cynllun benthyg gradd meistr newydd yn 2016-17 a gall myfyrwyr meistr dan 60 oed gael benthyciad o hyd at £10,000 tuag at eu costau astudio. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau ar eu cwrs yn 2017-18, bydd benthyciad o hyd at £10,280 ar gael.
  • Gweinyddir y benthyciadau gan Student Finance England ac mae gwybodaeth am gymhwysedd a’r broses ymgeisio ar gael ar eu tudalen cyllid myfyrwyr yn The Student Room.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru fel rheol:

  • Gall myfyrwyr sy’n dechrau dilyn cwrs Meistr ôl-radd llawn amser neu ran amser o 1 Awst 2017 ymlaen wneud cais am Fenthyciad Ôl-radd o hyd at £10,280 fel cyfraniad tuag at gostau’r cwrs a chostau byw.
  • Mae rhagor o fanylion ar gael ar dudalen Cyllid Myfyrwyr Cymru ar y we.

Ar gyfer myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn yr Alban:

  • O 2017-18 ymlaen, bydd Asiantaeth Dyfarnu Cyllid Myfyrwyr yr Alban (SAAS) yn darparu cyllid trwy fenthyciadau o hyd at £10,000 i dalu am ffioedd dysgu a chostau byw ar gyfer cyrsiau ôl-radd llawn amser a hyd at £2,750 i dalu am ffioedd dysgu cyrsiau ôl-radd rhan amser.
  • Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan SAAS.

Ar gyfer myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Ngogledd Iwerddon:

  • Gall myfyrwyr cyrsiau ôl-radd a addysgir gael Grantiau Ysgoloriaeth Myfyrwyr o hyd at £7,418 yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17 a £7,277 yn ystod 2017/18. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan y llywodraeth, NI Direct
  • O fis Medi 2017 ymlaen, bydd benthyciadau ôl-radd ar gael. Bydd myfyrwyr cyrsiau ôl-radd a addysgir yn gallu gwneud cais am fenthyciad o hyd at £5,500. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Student Finance NI

Mae ffynonellau eraill o gyllid ar gael:

  • Efallai y bydd banciau’n cynnig benthyciadau datblygu gyrfa a datblygu proffesiynol, ond efallai bod ganddynt feini prawf llym ar gyfer benthyca.
  • Ceir rhai cynlluniau benthyg penodol ar gyfer y rheiny sy’n astudio’r gyfraith neu ar gyfer MBA.
  • Mae rhai darparwyr cyrsiau’n cynnig cymorth ariannol neu fwrsariaethau. Mae'n bosib y bydd y brifysgol yn targedu myfyrwyr o wledydd penodol neu gyn-fyfyrwyr, ond dylai'r wybodaeth sydd ar eu gwefannau egluro hyn.
  • Gall myfyrwyr anabl dderbyn cymorth ariannol penodol i helpu gyda chostau byw sy'n berthnasol i'w hanabledd.

Gwybodaeth am gyllid

Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr cyrsiau ôl-radd yn cyhoeddi gwybodaeth am gyllid ar eu gwefannau. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ysgoloriaethau a bwrsariaethau.

Dyma rai ffynonellau gwybodaeth eraill am gyllid ar gyfer astudio ôl-radd:

Ffynonellau gwybodaeth y llywodraeth:

Astudio llawn amser neu ran amser? Dysgu ar y campws neu ddysgu o bell?

Bydd sut a ble gallwch astudio, neu ble rydych am astudio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

  • Mae cyrsiau rhan amser, dysgu o bell a chyfuniadau o ddulliau astudio i gyd yn opsiynau os oes angen i chi aros lle rydych chi'n byw neu'n gweithio ar hyn o bryd.
  • Er bod gan lawer o gyrsiau amrywiaeth o opsiynau astudio, dylech holi’r brifysgol neu’r coleg beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol.
  • Mae'n rhaid astudio rhai cyrsiau galwedigaethol yn llawn amser.
  • Meddyliwch am sut hoffech ddysgu, ac am faint o gyfathrebu wyneb yn wyneb a chysylltiad â myfyrwyr eraill a staff rydych ei eisiau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis cwrs sy'n addas i chi.
  • Os ydych chi eisiau dilyn cwrs penodol efallai y bydd rhaid chi ystyried symud. Fel arall, efallai bod dysgu o bell neu gyfuniad o ddysgu ar y campws a dysgu ar-lein (dysgu cyfunol) yn opsiwn.
  • Nid yw myfyrwyr sydd â chaniatâd mewnfudo Haen 4 yn cael astudio’n rhan amser na thrwy ddysgu o bell. Dylech ofyn i’r brifysgol neu’r coleg lle rydych eisiau astudio am yr opsiynau mewnfudo sydd ar gael i chi.

A ddarperir llety?

Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion rywfaint o lety ar gyfer ôl-raddedigion. Fel arfer maent yn esbonio sut mae’n cael ei ddyrannu, ac yn aml bydd ganddynt restrau o landlordiaid lleol.

Cofiwch y bydd ymchwilio i gostau llety yn hanfodol wrth i chi gyfrifo holl gost astudio ôl-radd.

Mae rhai prifysgolion yn rhoi blaenoriaeth i fyfyrwyr rhyngwladol. Nid yw hyn yn golygu y byddant yn gallu helpu pob myfyriwr rhyngwladol. Fel arfer bydd hyn yn golygu y bydd ond ychydig o lefydd ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sydd â theuluoedd.

Syniadau i roi cynnig arnynt:
  • Gallech ofyn i’r brifysgol neu’r coleg eich rhoi mewn cysylltiad â myfyrwyr ôl-radd eraill sy’n chwilio am lety.
  • Cysylltwch ag adran llety'r sefydliad yn gynnar er mwyn cael cyngor – yn enwedig os oes gennych anghenion llety penodol.

A oes angen fisa ar fyfyrwyr rhyngwladol?

Os ydych yn dod o wlad yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu yn Ardal Economaidd Ewrop, ni fydd arnoch angen fisa i astudio yn y DU.

Bydd angen fisa Haen 4 arnoch os ydych chi’n dod o’r tu allan i’r gwledydd hyn. Gweler Sut i wneud cais.

Sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser er mwyn deall y rheolau a gwneud cais am y fisa ac am y cwrs.

Caniateir y fisa ar gyfer astudio mewn prifysgol neu goleg penodol. Felly bydd angen i chi sicrhau lle ar gwrs yn gyntaf.

Gallwch ymgeisio am gymaint o gyrsiau gyda chynifer o sefydliadau ag y dymunwch chi – ond ni fyddwch yn gallu derbyn mwy nag un cynnig. Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig, bydd y sefydliad yn cyflwyno Cadarnhad o Dderbyn i Astudio (CAS). Bydd angen hyn arnoch er mwyn gwneud cais am fisa.

Os ydych yn gwneud cais drwy asiant neu gynghorydd addysgol mewn prifysgol neu goleg penodol, byddant yn eich helpu i wneud cais. Bydd eu gwefannau a’u swyddfeydd ar gyfer delio â myfyrwyr rhyngwladol yn cynnig cyngor hefyd.

Ffynonellau ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth

A yw myfyrwyr rhyngwladol yn gallu gweithio?

Caniateir i fyfyrwyr o’r UE weithio, ar yr amod eu bod yn cadw at reolau eu gwlad enedigol ar gyfer gweithio dramor fel myfyrwyr.

Mae’r fisa astudio ar gyfer myfyrwyr o’r tu allan i’r UE ychydig yn fwy cyfyngedig: mae’r rheolau’n dibynnu ar eich lleoliad astudio. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ganllawiau UKCISA.

Mae gofynion fisa'n newid yn aml a dylech wirio'r rheolau sy’n berthnasol i chi cyn dechrau ar unrhyw waith.

Syniadau i roi cynnig arnynt: gofynnwch a yw lleoliad profiad gwaith yn rhan ffurfiol o’r cwrs. Os nad ydyw, efallai na fyddwch yn ennill mathau gwerthfawr o brofiad gwaith, fel interniaeth neu leoliad gwaith.

Rhagor o ffynonellau ar gyfer gwybodaeth a chymorth

  • UK Visas and Immigration (UKVI) am wybodaeth am wneud cais am fisa
  • UK Visas and Immigration (UKVI) am wybodaeth am waith i fyfyrwyr Haen 4
  • Education UK (British Council) – cyngor i fyfyrwyr rhyngwladol
  • UKCISA – Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y DU

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf?

Bydd gan bob cwrs ôl-radd a addysgir ei ofynion mynediad, a fydd yn cael eu trafod yn y wybodaeth am y cwrs. Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, bydd y wybodaeth hon yn egluro pa lefel o Saesneg llafar ac ysgrifenedig sydd ei hangen ar gyfer y cwrs.

Bydd gan rai myfyrwyr radd gyntaf yn y pwnc maent am ei astudio, ond nid yw hyn bob amser yn ofyniad. Dylai ymgeiswyr ystyried y canlynol:

  • Nid yw rhai pobl yn astudio'r un pwnc ar lefel ôl-radd ag y gwnaethant ei astudio ar gyfer eu gradd gyntaf.
  • Bydd rhai prifysgolion yn ystyried ymgeiswyr sydd â'r profiad gwaith perthnasol yn lle gradd gyntaf. Gelwir hyn yn gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol ac mae'n dibynnu ar y maes – gall hyn fod yn eithaf cyffredin ar gyfer cyrsiau busnes ac yn llai cyffredin yn y gwyddorau.
  • Bydd rhai cyrsiau hefyd yn cydnabod cymwysterau addysg uwch nad ydynt yn radd ond sy’n cynnwys profiad gwaith. Mae enghreifftiau o’r cymwysterau hyn yn y DU yn cynnwys Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
  • Bydd rhai cyrsiau'n derbyn cymwysterau proffesiynol.
  • Gofynnwch a yw'ch profiad yn bodloni'r gofynion. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion, mae dal yn bosib y bydd y brifysgol neu’r coleg yn gallu helpu. Efallai y byddant yn gwybod am gyrsiau mewn prifysgolion eraill, neu opsiynau astudio eraill, sy'n fwy addas ar gyfer eich cymwysterau chi.

Gwybodaeth ddefnyddiol: Ar wefannau sefydliadau, chwiliwch am gyrsiau neu fannau o'r wefan sy'n sôn am Achredu Dysgu Blaenorol neu Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol, a elwir weithiau’n gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol. Bydd hyn yn dweud wrthoch chi a yw'r sefydliad yn derbyn astudio neu brofiad arall, ac ym mha gyd-destunau.

Gwneud cais am gwrs ôl-radd

Fel arfer, bydd angen i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob cwrs ôl-radd, hyd yn oed yn yr un sefydliad.

Fel arfer, anfonir ceisiadau yn uniongyrchol at y sefydliad. Nid oes system gais gyffredin yn y DU fel sydd ar gyfer cyrsiau israddedig.

Dyma rai eithriadau:

  • Mae cynllun ôl-radd UCAS yn ymdrin â cheisiadau i ystod ddethol o sefydliadau.
  • Mae nifer o gyrsiau proffesiynol a galwedigaethol yn defnyddio cynlluniau ymgeisio cyffredin (er enghraifft, y gyfraith, addysg, gwaith cymdeithasol a seicoleg glinigol).

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’n amrywio rhwng darparwyr cyrsiau ôl-radd. Felly bydd angen i chi holi pob un rydych chi’n gwneud cais iddo pryd mae hyn.

Mae myfyrwyr o’r DU neu’r UE yn gallu gwneud cais am gymaint o gyrsiau ag y dymunant a derbyn pob cynnig maent am ei dderbyn (er y bydd angen iddynt dalu blaendal o bosib). Unwaith maent wedi cael cynigion gallant benderfynu pa gynnig i’w dderbyn yn nes at y dyddiad dechrau. Ond sicrhewch eich bod yn neilltuo digon o amser ar gyfer pethau pwysig eraill fel trefnu llety.

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gallu gwneud cais am gymaint o gyrsiau ag y dymunant, er mai dim ond un cynnig y gallant ei dderbyn. Bydd angen iddynt wneud cais am fisa penodol i astudio yn y brifysgol neu’r coleg hwnnw.

Cynlluniau ymgeisio cyffredin:

Cafodd y wybodaeth ar y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ym mis Mehefin 2017.
Mae UKCISA yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr yr UE ar ôl y refferendwm.

Nesaf

Lle i gael mwy o wybodaeth