Pa gyrsiau sydd ar gael yn fy maes i?
Ffordd gyflym o weld yr hyn sydd ar gael yn eich maes chi yw defnyddio gwefan ar gyfer dod o hyd i gyrsiau ôl-raddedig yn y DU.
Mae’r gwefannau porth hyn yn dibynnu ar brifysgolion a cholegau i anfon gwybodaeth gyfoes atynt. Felly byddwch yn ymwybodol y gall manylion fod ar goll neu bellach nad ydynt yn gyfoes.
Mae’r ystod o wybodaeth ar bob gwefan yn amrywio. Felly peidiwch â dibynnu ar un wefan borth yn unig.
Mae safle Ôl-raddedig UCAS a safle Prospects yn casglu gwybodaeth yn systematig gan bob sefydliad.
Hefyd mae rhai safleoedd porthol yn caniatáu i chi chwilio am bynciau penodol mewn modiwlau, sy’n gallu helpu gyda dod o hyd i gyrsiau sy’n cael eu cuddio efallai gan deitl cwrs mwy cyffredinol.
Pan fyddwch wedi creu rhestr fer o gyrsiau sydd o ddiddordeb, siaradwch yn uniongyrchol â darparwr y cwrs er mwyn cael mwy o wybodaeth.
Defnyddiol i wybod: Ar rai safleoedd porthol mae sefydliadau’n talu am hysbysebu eu cyrsiau, gan eu gwneud yn amlycach pan fyddwch yn chwilio drwy’r wefan. Cofiwch bod llai o hybu ar gyrsiau eraill efallai.
Gwefannau porth sefydledig ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig:
Beth sy’n digwydd mewn ffair astudiaethau ôl-raddedig?
Cynhelir tair ffair ôl-raddedig fawr yn y DU bob blwyddyn, yn ogystal â rhai llai, rhanbarthol.
Ceir stondinau gan brifysgolion ac arddangosfeydd gan sefydliadau eraill ynglŷn â chyllid, gyrfaoedd a materion perthnasol eraill. Fel arfer maent yn cynnwys sgyrsiau am y gwahanol agweddau ar astudio ôl-raddedig ac weithiau sesiynau cyngor ar yrfaoedd.
Mae ffeiriau ôl-raddedig yn fannau da i gael gwybodaeth gyffredinol am brifysgol ac i gwrdd â'r staff wyneb yn wyneb. Os oes gennych gwestiynau am gyrsiau penodol, byddant yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â'r staff sy'n eu cynnal.
Efallai y bydd prifysgolion yn rhestru pa ffeiriau maent yn eu mynychu ar eu gwefannau.
Ffeiriau astudiaethau ôl-raddeding
- Manceinion (Tachwedd)
- Llundain (Ionawr a Hydref)
- Yr Alban
- Cynhelir ffeiriau eraill ledled y DU gan:
Syniadau i roi cynnig arnynt: Cyn mynd i ffair ôl-raddedig, lluniwch restr o gwestiynau i’w gofyn i bob sefydliad a darparydd cwrs yr hoffech chi gwrdd â nhw. Gwnewch ymchwil i’r hyn mae’r sefydliadau hynny’n ei gynnig cyn llunio eich rhestr o gwestiynau.
Siarad â staff academaidd am gwrs
Os ydych am siarad â staff academaidd am gwrs, ystyriwch y canlynol:
- Chwiliwch am y wybodaeth gyswllt berthnasol ar dudalen cyrsiau gwefan y brifysgol neu’r coleg.
- Bydd gan rai sefydliadau ganolfan ymholiadau ganolog, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i'r cysylltiadau cywir.
- Os nad yw’r cyswllt yn gallu ateb eich cwestiynau penodol, gofynnwch am gyfeiriad e-bost uniongyrchol rhywun sy’n gallu eich helpu yn hyn o beth.
- Cadwch olwg am sesiynau sgwrsio ar-lein neu webinarau ar wefannau prifysgolion neu golegau. Gall y rhain gael eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Dylech ddisgwyl ateb o fewn ychydig ddiwrnodau. Os nad ydych wedi derbyn ateb ar ôl wythnos, mae’n syniad anfon e-bost arall neu ffonio.
Siarad â myfyrwyr ôl-raddedig cyfredol
Gall siarad â myfyrwyr ôl-raddedig cyfredol fod yn ddefnyddiol. I wneud hyn, ystyriwch y canlynol:
- Bydd llawer o sefydliadau’n cynnal diwrnodau agored lle bydd myfyrwyr cyfredol a staff ar gael i siarad â chi.
- Cadwch olwg am fforymau a sesiynau sgwrsio ar-lein neu grwpiau cyfryngau cymdeithasol a gaiff eu rhedeg gan ŷ sefydliad yn eich maes.
- Mae rhai sefydliadau’n cynnig cysylltiadau e-bost er mwyn cysylltu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol â’i gilydd.
- Efallai y bydd grwpiau alumni y gallwch gysylltu â nhw drwy ddefnyddio rhwydweithiau fel LinkedIn neu Facebook.
- Cysylltwch â’r adran sy’n cynnal y cwrs a gofynnwch a ydynt yn gallu eich helpu i gysylltu â myfyrwyr presennol neu raddedigion diweddar.
Pwy allai ateb cwestiynau gan fyfyrwyr rhyngwladol eraill?
Bydd gan y rhan fwyaf o ddarparwyr cyrsiau wasanaethau cymorth, gan gynnwys swyddfa ryngwladol. Bydd aelodau o staff yn hapus i’ch helpu ac i’ch cynghori chi fel myfyriwr rhyngwladol ar unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag astudio yn y DU. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau!
Hefyd efallai y bydd y swyddfa ryngwladol yn gallu eich cyfeirio chi at fyfyrwyr rhyngwladol cyfredol, gan gynnwys rhai o’ch gwlad eich hun, er mwyn ichi eu holi am eu profiadau.